Canicross yw’r gamp o redeg traws gwlad gyda’ch ci. Mae Canicross Ynys Môn yn glwb wedi’i leoli ar yr Ynys. Rydym yn darparu ar gyfer pob lefel o ffitrwydd - rhedwyr a chŵn. Felly, os ydych yn rhedeg am y tro cyntaf neu’n redwr profiadol yna gallwch redeg gyda ni. Rydym hefyd yn trefnu ein rasys ein hunain ddwywaith y flwyddyn, mwy o wybodaeth yma.
Y cyfan sydd ei angen arnoch yw pâr o esgidiau rhedeg a ci, ac os nad oes gennych gi eich hun, yna gallwn roi benthyg un i chi!