Am y chweched flwyddyn yn olynol, bydd ras 5K Canicross Ynys Môn yn cael ei gynnal yn Niwbwrch ar ddydd Sul 28fed Tachwedd, 2021.
Mae'r ras yn ras canicross pwrpasol a fydd yn gweld cystadleuwyr a'u cŵn yn rasio dros lwybr 5K yng Nghoedwig trawiadol Niwbwrch ar Ynys Môn.
Dosbarthiadau am eleni yw:
Benyw 15-39 Gwryw 15-39
Benyw 40-49 Gwryw 40-49
Benyw 50+ Gwryw 50+
Benyw 2 Gi Gwryw 2 Gi
Iau 10-14
Cubs hyd at 10oed
Mae’n bosibl i chi wneud cais ar-lein yma.
Dalier sylw, os na fyddwch yn gallu cystadlu, a chithau wedi talu, yna gallwch gynnig eich lle i rywun arall (ond bydd angen gneud hyn cyn y dyddiad cau). Mae ad-daliad neu gohirio eich cais yn ôl disgresiwn y trefnwyr. Rhaid gwneud unrhyw geisiadau drwy ebost cyn y dyddiad cau.
.