Mae Canicross Ynys Môn bellach yn cynnig ystod eang o gyrsiau i bobl sydd am ddechrau canicross neu i
baratoi canicroswyr newydd ar gyfer eu ras cyntaf. Gall ein hyfforddwyr ymdrin â phob agwedd ar hybu eich
ffitrwydd chi a’ch ci, bwyta’n iach ac ymarferion.
Cyrsiau ar gael:
Cyflwyniad i Canicross:
Sesiwn 1 awr yw hon sydd wedi’i anelu at bobl nad ydynt erioed wedi rhedeg â’u cŵn o’r blaen ac yn eu cyflwyno i’r gamp o
canicross. Y cyfan sydd ei angen arnoch yw eich ci a pâr o esgidiau rhedeg. Bydd offer canicross yn cael ei ddarparu.
Nid oes unrhyw ofyniad ffitrwydd heblaw eich bod yn gallu cerdded, loncian neu redeg am awr. Bydd y grwpiau’n cael eu
teilwra i’r bobl sy’n mynychu’r cwrs.
Cost £5 y pen.
Dechreuwyr Canicross:
Mae hwn wedi’i anelu at bobl sydd newydd ddechrau canicross neu sydd am ddechrau canicross. Fe’i cynhelir dros 4
wythnos, sesiwn 1 awr yr wythnos, byddwch yn dysgu pethau sylfaenol canicross. Bydd offer canicross yn cael ei ddarparu
(dewch a’ch ci eich hun).
Cost y cwrs £40 (sy’n ddyledus yn wythnos 1).
Cwrs Paratoi ar gyfer Ras:
Os nad ydych erioed wedi cystadlu mewn ras o’r blaen, yna bydd y cwrs hwn yn rhoi cipolwg i chi o’r hyn i’w ddisgwyl yn
eich ras gyntaf. Bydd y cwrs yn 1 sesiwn o 2 awr, bydd rhan ohono yn theori a bydd rhan yn ymarferol.
Disgwylir y bydd gennych chi’ch holl offer canicross eich hun a bod gennych rywfaint o brofiad canicross.
Cost y cwrs yw £10.
Mae dyddiadau a lleoliadau ar gyfer y cyrsiau hyn i’w gweld ar ein tudalen hyfforddi ar Facebook - cliciwch yma.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau, anfonwch neges drwy’r FB neu siaradwch â James/Angharad.
Ein Hyfforddwyr
James Harwood.
Mae James wedi bod yn ymwneud â canicross ers 2009. Mae wedi rasio mewn gwahanol ddigwyddiadau ledled y DU ac
wedi cynrychioli y DU 3 gwaith ym Mhencampwriaethau Ewropeaidd ECF, Gwlad Belg yn 2010, Gwlad Pwyl yn 2011 a
Cirencester (DU) yn 2012. Mae James yn un o sylfaenwyr clwb Canicross Ynys Môn.
Angharad Woodall
Dechreuodd Angharad canicross yn fuan ar ôl i Canicross Ynys Môn gael ei ffurfio yn 2013. Mae hi wedi rasio mewn
amryw o ddigwyddiadau ledled y DU. Mae Angharad hefyd yn hyfforddwr personol, yn hyfforddwr ffitrwydd, hyfforddwr
“martial arts” ac hefyd wedi arbrofi mewn ymarferion “stunts” i ferched….