Ymunwch â’r Clwb!

Rydych wedi bod yn rhedeg gyda ni ychydig o weithiau, mae gennych yr offer ond beth nesaf?
Wel, beth am ymuno â’r clwb!
Mae yna lawer o fanteision, yn gyntaf rydych wedi’ch yswirio wrth redeg gyda ni (ar gyfer atebolrwydd), mae gennych y cyfle i ymuno â rhai o’n arweinwyr gwych a profi llwybrau newydd yn ddiogel.  Fel aelod o’r clwb cewch gefnogaeth gan aelodau eraill wrth redeg, ymuno mewn rasys a mwynhau cwmni eraill a chymdeithasu!  Mae cymaint o hwyl i’w gael drwy fod yn aelod o’r clwb a gwneud ffrindiau oes.
Mae’r tâl aelodaeth yr ydych yn ei roi yn golygu y gallwn gynnal ein rasys ein hunain a diweddaru yr offer yr ydym eu angen i helpu unrhyw redwr newydd sydd am brofi canicross am y tro cyntaf.  Rydym hefyd yn gwerthu crysau a “leggings” gyda logo’r clwb arnynt fel y gallwch deimlo’n rhan o’r tîm gwyrdd.